DVD CAMAUBACH

 

Mae'r DVD ‘Camau Bach' wedi ei greu yn arbennig ar gyfer babis a Chymry ifanc cyn oedran ysgol, sydd yn ei wneud yn gynnyrch cwbl unigryw. Bydd yn gyfle i'r gwylwyr bychan fwynhau delweddau apelgar a diddorol ynghyd â gwrando ar ganeuon a hwiangerddi traddodiadol a phoblogaidd yn y Gymraeg.

Yn ogystal a chael eu diddanu rydym yn gobeithio bydd y gwylwyr bychan hefyd yn cael eu haddysgu – mae'r delweddau a'r gwrthrychau sy'n cael eu dangos ar y DVD wedi eu grwpio i saith thema sydd yn rhan o fyd plentyn ifanc e.e teganau, ffrindiau, lliwiau. Trwy gyfrwng y saith thema hyn gobeithio bydd y gwylwyr ifanc yn creu cysylltiadau a fydd yn gweithio tuag at roi synnwyr a threfn i'w byd a'i profiadau.

Bydd adran ‘Geiriau Cyntaf' y DVD hefyd yn gyfle i addysgu plant ifanc gan fod geiriau yn cael eu hynganu a'i hysgrifennu ar y sgrîn i fynd gyda'r ddelwedd. Nid dysgu i blant ddarllen yw ein bwriad ond yn hytrach eu cyfarwyddo a phrint ysgrifenedig a gwahanol ddulliau o fynegi. Bydd hyn hefyd wrth gwrs yn ehangu eu geirfa, sydd yn gwneud yr adran hon yn ddefnyddiol ar gyfer plant a rhieni sydd yn dysgu Cymraeg, yn ogystal a'r rheiny sydd yn rhugl.

Ein prif fwriad fodd bynnag yw i fabis a phlant fwynhau a chael hwyl wrth ei wylio – mae'n addas iddynt ei wylio ar eu pen eu hunain, ond gorau oll os gall rieni a phlant ei fwynhau gyda'i gilydd.

 

 

 




Y DVD


DVD
Gwrandewch ar ganeuon traddodiadol a hwiangerddi Cymraeg. Mwynhewch y delweddau diddorol ac apelgar.     
Sut i brynu...

Chwarae Sampl....