NEW BANNER ..DVD CAMAU BACH ........ .. ivanhous

     

 

Datganiad I’r Wasg

30.07.10

MWY O GAMAU BACH

Mae brawd a chwaer o Ruthun wedi creu eu hail DVD Cymraeg ar gyfer babis a phlant ifanc.

Mae Camau Bach 2, sy’n £12 ac wedi ei anelu at fabanod a phlant cyn oedran ysgol, yn gyfuniad o gerddoriaeth, geiriau a delweddau lliwgar ac apelgar sydd wedi ei ffilmio mewn gwahanol leoliadau yng Ngogledd Cymru.

Gyda’i phenodau gwahanol ar fyrdd o bynciau’n dwyn teitlau megis ‘Bwyd’, ‘Y Parc’ ac ‘Anifeiliaid Anwes’  i gyd yn priodi â chyfeiliant cerddorol hwiangerddi Cymraeg  - does dim dwywaith ei fod yn gyflwyniad bendigedig i’n hiaith a’n hamgylchedd, ac yn rhywbeth i’w gadw a’i drysori am flynyddoedd i ddod. Caffaeliad mawr i’r DVD yw trefniannau newydd o 8 hwiangerdd Gymraeg gan Barry ‘Archie’ Jones o grŵp Celt ac yn cael eu canu gan ei wraig Eleri Fôn, sy’n adnabyddus i lawer fel cantores gefndir gyda Bryn Fôn a Sobin a’r Smaeliaid cyn hynny.
 
Mali Williams, a Rhys Edwards, brawd a chwaer o Rhuthun, sy’n gyfrifol am greu’r DVD hwn, fyddai’n anrheg fendigedig i riant beichiog, ar enedigaeth plentyn, fel rhodd bedydd neu yn y misoedd hynny cyn addysg feithrin. Mae’r DVD yn dilyn llwyddiant mawr eu DVD Camau Bach cyntaf a gafodd ei gyhoeddi yn 2006, a sydd hyd yn hyn wedi gwerthu bron i ddwy fil o gopiau.

Fel athrawes ysgol gynradd yn Ysgol Pant Pastynog, Prion,
roedd Mali wedi sylwi ers tro ar brinder darpariaeth addysgol
Cymraeg i blant ifanc. Serch hynny, ni amlygodd y syniad o greu
DVD ei hun tan y daeth hi’n rhiant ei hunan yn 2005.
“Cefais fideo Americanaidd ‘Baby Mozart’ yn anrheg gan ffrind I mi, a meddyliais y byddai fersiwn Cymraeg yn syniad da. Fy mrawd, Rhys oedd y dyn delfrydol I’n helpu fi gyda’r ochr ffilmio a golygu” eglura Mali.

Ac fel dyn camera yn gweithio gyda chwmni Tinopolis ar raglen gylchgrawn nosweithiol S4C, Wedi 7, ac wedi ei enwebu ddwy waith ar gyfer BAFTA Cymru, roedd Rhys, sydd bellach yn byw gyda’i wraig ger Bangor, yn fwy na pharod I gynnig ei sgiliau. O ganlyniad, cafodd y cyfan wedi ei roi at ei gilydd yn raenus, ac roedd y prosiect wedi elwa’n amlwg o gryfderau ac arbenigedd gwahanol y brawd a’r chwaer. 
“Cawsom ymateb mor bositif I’r Camau Bach cyntaf” meddai Mali “Roedd plant a’u rhieni wrth eu bodd gyda’r DVD ac roedd pawb yn gofyn I ni pryd oeddem am wneud un arall.”
Mae Camau Bach 2 yn ymateb I’r galw hwn ac yn cynnwys 8 pennod newydd a threfniannau newydd o ganeuon Cymraeg poblogaidd, adran ‘geiriau cyntaf’, a fersiwn carioci i bawb gael ymuno yn y canu. Mae’r DVD yn cael ei lawnsio ym mhabell TWF yn Eisteddfod Glyn Ebwy ar Awst y 5ed ac yn mynd i fod ar werth mewn siopau Cymraeg ledled Cymru, neu trwy’r wefan www.camaubach.com.
Camau Bach 2, £12
www.camaubach.com

 

y wasg :

Camau Bach 1

Erthygl 'Camau Bach' o'r Herald Cymraeg Awst 2 2006

CAMAU BACH I GYFLWYNO HUD Y BYD MAWR I BLANT

Baby Mozart , Baby Monet , Baby Einstein – does dim prinder o ddeunyddiau ac adnoddau sy'n eich galluogi i feithrin ymwybyddiaeth o ystod eang o bynciau yn eich plentyn, a hynny o'r crud. O gelf i gerddoriaeth glasurol, o rifyddeg i ramadeg, mae rhai rhieni'n benderfynol o drwytho'u plant yn y clasuron bron cyn iddynt gael crap ar gropian.

Hyd yma fodd bynnag, does dim darpariaeth o'r math wedi cael ei gynnig trwy gyfrwng y Gymraeg. Ond dros y misoedd diwethaf, mae brawd a chwaer o Ruthun wedi bod wrthi'n ddygn yn ceisio newid hynny. Er prin y dychmygai Mali Williams, 34, na Rhys Edwards 30, gymaint o sialens fyddai na chwaith y gwaith fyddai'n mynd i mewn i gynhyrchu'r cynnyrch gorffenedig, y DVD Camau Bach, fydd yn cael ei lansio draw ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Abertawe eleni.

Mae'r cysyniad - fel y rhan fwyaf o'r syniadau gorau - yn ymddangos nid yn unig yn gwbl syml, ond hefyd yn un cwbl amlwg. Er, yn ôl Mali , ni amlygodd ei hun tan y daeth hi'n rhiant ei hunan .

“Pan ges i fabi nôl ym mis Mawrth 2005, mi sylwais i a gymaint o bethau nad o'n i wedi bod yn ymwybodol ohonynt cyn hynny,” eglura. “Mae 'na gymaint o geriach o gwmpas ar gyfer plant, ac mae pawb yn gwneud i chdi deimlo y dylet ti brynu'r rhan fwyaf ohonyn nhw, ac o'n i di clywed trwy'r magasîns ac ati am Baby Einstein.

“Beth bynnag, mi brynodd ffrind i mi Baby Mozart yn bresant i Ned. Roedden ni'n dwy'n arfer bod yn y coleg yn astudio ffilm gyda'n gilydd, ac mi ddeudodd hi wrtha i, ‘Pan weli di hwn, nei di gicio dy hun na wnes di ddim meddwl amdano fo',” ychwanega Mali .

“A dyna pryd ges i'r syniad a deud y gwir. Ro'n i'n siwr bod yna alw am rywbeth tebyg yn y Gymraeg. Felly dyma fi a 'ngwr yn mynd ati gyntaf i wneud rhyw fersiwn gan ddefnyddio teganau Ned. Ond roedd o'n hollol amhroffesiynol efo lot o chwerthin a'r dishwasher yn mynd yn y cefndir!” chwardda, cyn ychwanegu, “Ond er hynny, o'dd Ned wrth ei fodd yn ei wylio fo, felly dyma fi'n sôn wrth Rhys…”

“Ag yn digwydd bod, ro'n i newydd brynu camera ac edit suite a bob dim fyddet ti angen i 'neud y gwaith yn iawn,” meddai Rhys gan gydio yn yr hanes. “Felly 'nes i ddeud y baswn i'n ei wneud o efo Mali .”

“Oedden ni'n meddwl y byddai o'n eitha' hawdd ar y cychwyn doedden?”

“Oedden, swn i'n gwybod adeg hynny, faint o waith oedd o'n ei olygu mewn gwirionedd, dwn i ddim 'swn i di neud o,” cyfaddefa Rhys drachefn.

“O ran y delweddau sy'n cael eu defnyddio ynddo fo, mae'r rheiny'n weddol hawdd eu cael,” eglura Mali . “Ond mae'r ochr dechnegol wedi bod yn agoriad llygad llwyr, a Rhys druan gafodd y dasg o fynd ati i daclo pethau fel fformatio, a'r ymchwil gyfrifiadurol a'r pethau cymhleth hynny!”

Ac fel dyn camera sydd ar hyn o bryd yn gweithio gyda chwmni Tinopolis ar raglen gylchgrawn nosweithiol S4C, Wedi 7 , roedd Rhys, sydd bellach yn byw gyda'i gariad yn Y Felinheli, yn ddelfrydol i ymgymryd â'r dasg honno. O ganlyniad, mae'r cyfan wedi ei roi at ei gilydd yn raenus, â'r prosiect wedi elwa'n amlwg o gryfderau ac arbenigedd gwahanol y brawd a'r chwaer.

Fel athrawes ysgol gynradd a astudiodd gwrs yn dilyn graddio, roedd Mali hefyd yn berson delfrydol i ymgymryd â'r ochr addysgol o'r gwaith o drosglwyddo gwybodaeth berthnasol i blant o bob oed. Serch hynny, mynna mai'r hwb a barodd iddi o'r diwedd i weithredu'r syniad oedd wedi bod yng nghefn ei meddwl ers tro byd, oedd dod yn fam ei hun. Yn wir, dywed mai beichiogi a rhoi genedigaeth i Ned, sydd bellach yn gymeriad bach 16 mis oed digon o ryfeddod, oedd y cymhwyster gorau allai hi fod wedi ei gael gogyfer y dasg.

“Mae gen i gefndir byd addysg, o ddysgu plant ifanc. A dwi 'di bod yn dysgu plant y cymorth sylfaen newydd 'ma sy'n dod yn statudol flwyddyn nesa',” meddai Mali sydd bellach yn ei hôl yn y gwaith ddeuddydd yr wythnos, fel athrawes ysgol gynradd yn Ysgol Pant Pastynog, Prion.

“Ac mi wnes i wneud cwrs ym Mangor hefyd fel rhan o 'nghwrs MA - roedd 'na un modiwl ar ddatblygiad ieithyddol plant ifanc cyn oed ysgol 'llu. Felly o'dd 'na lot o bethau fel hyn yng nghefn fy meddwl i. Mae'r ochr broffesiynol wedi bod yn andros o bwysig wrth gwrs, ond yr hyn fuodd yn fwyaf o gymorth, a'r hyn o'n i'n anelu amdano fo'n bennaf oedd meddwl be fyddai Ned yn ei licio a beth fyddai'n apelio fo a'i ffrindiau fo,” ychwanega.

Ac er yr holl waith caled, byddai unrhyw un fydd yn gweld y DVD gorffenedig yn unfryd gytûn fod y ddau wedi sicrhau oriau bwygilydd o fwynhad i aelwydydd Cymraeg ym mhob cwr o'r wlad. Ac er i'r syniad gwreiddiol hanu o gynnyrch Americanaidd, mae naws gynnes, agos atoch chi, gynhenid Gymreig yn perthyn i Camau Bach .

Gyda'i phenodau gwahanol ar fyrdd o bynciau'n dwyn teitlau megis ‘Teganau', ‘Ffrindiau', Ar y Fferm,' sydd i gyd â chyfeiliant cerddorol hwiangerddi Cymraeg iddynt –diolch i drefniant newydd gan Barry ‘Archie' Jones o'r grwp ‘Celt', ac yn cael eu canu gan ei wraig Eleri Fôn sy'n adnabyddus i lawer felaelod o fand Bryn Fon a Sobin a'r Smaeliaid cyn hynny - does dim dwywaith ei fod yn gyflwyniad bendigedig i'n hiaith a'n hamgylchedd, ac yn rhywbeth i'w gadw a'i drysori am flynyddoedd i ddod.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

PRESS RELEASE


30.07.10


NEW DVD FOR YOUNG CHILDREN RELEASED

     A brother and sister team from Ruthin have devised their second innovative DVD to entertain and educate babies and young children.

     Camau Bach 2 (Small Steps), which retails at £12, introduces pre-school children to the big wide world and includes chapters on pets, the park and food. It also has a karaoke version to which children and parents can sing along to new arrangements of popular  Welsh nursery rhymes. The DVD follows the success of the first Camau Bach DVD released in 2006.

     Brother and sister Rhys Edwards, and Mali Williams, from Ruthin were responsible for dreaming up the DVDs.

     As a primary school teacher at Ysgol Pant Pastynog, Prion, Mali had noticed that there was a lack of Welsh language education provision for very young children. However the idea to go about creating her own DVD did not come to her until she was a parent herself.  “When I had a baby back in March 2005, I suddenly noticed all these things I hadn’t really been aware of before,” she explains. “ I decided to have a go at making my own DVD with a totally Welsh flavor after seeing an American Baby Mozart video. I naturally turned to my brother for help with the filming and editing.”
           
Brother Rhys, a cameraman for Tinopolis television company on the nightly S4C magazine programme Wedi 7, who now lives with his wife near Bangor, was ideal for the task. As a result, the DVD benefited from the strengths and skill of both brother and sister; Rhys as a twice BAFTA Cymru nominated cameraman and Mali as a Drama graduate and teacher.

     Since its release in 2006 Camau Bach has sold almost two thousand copies and has been very much appreciated by parents and children alike. “ We had such excellent feedback with the first Camau Bach DVD. Some parents told us that their copies were literally wearing out because their children played it so much. They begged us to make another one!” says Mali. The result is Camau Bach 2 which is being launched on August 5th in the National Eisteddfod in Ebbw Vale.

“We are very proud of the success of the first Camau Bach DVD and are very much hoping that Camau Bach 2 will prove as popular!”

Camau Bach 2 will be available, priced at £12, in Welsh shops throughout Wales or through the website www.camaubach.com.